Merched y Mwmbwls

Ciw-restr ar gyfer Sali Wat

(Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs.
 
(Mari) Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto.
(1, 0) 112 Odi'r bad wedi mynd?
(Shan) Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr.
 
(Shan) Mae'r môr yn arw heno!
(1, 0) 115 Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw."
(1, 0) 116 Roedd Gwenno yn meddwl 'mod i yn mynd i aros yn y gwely, ond dim o'r fath beth.
(1, 0) 117 Ni aeth y bad mâs erioed o'r blaen heb 'mod i yma.
(1, 0) 118 Y fi oedd yma gynta' ar y noson ofnadwy honno bymtheng mlynedd yn ol pan aeth William ni yn y bad, ond ddaeth e', na llawer un arall, byth yn ol.
(1, 0) 119 Ni fydd fy amser i yn faith eto, fe groesa i 'r afon cyn bo hir.
(Gwenno) Dewch i eistedd ar y garreg draw fan yna, mam, wnewch chi?
 
(1, 0) 339 Dyna 'r ffordd.
(1, 0) 340 Eto!
(1, 0) 341 Eto!
(1, 0) 342 O, diolch i'r nefoedd!
(Gwenno) Dyma 'mam yn dod i'n helpu.
 
(Gwenno) Dewch fan hyn, mam, fe ellwch dynnu tipyn bach gyda fi.
(1, 0) 345 Fe dynnaf i â'r anadl ola i gael y merched 'nol, gwnaf yn wir!
 
(Sam Caleb) {Yn ei thorri.}
(1, 0) 386 Dere, Shan, cer â fi lawr at y dŵr.
(1, 0) 387 Fe fydd eisieu shawls ar y merched wedi bod yn y dŵr.
 
(Gwenno) Byddwch yn siwr o fod yn dost yn y gwely ar ol heno.
(1, 0) 426 Mae'n |shawl| i gyda Bess.
(Shan) Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro.
 
(Shan) I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt!
(1, 0) 444 Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed?
(1, 0) 445 Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd.
(Shan) Dere adre, Sali.
 
(Shan) Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr.
(1, 0) 448 Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto.
(1, 0) 449 Mae stormydd bywyd bron â dod i ben, ac er bod y cwch bach yma wedi taro yn aml yn erbyn y graig, mae'r Bywyd-fad gerllaw i fynd â fi i'r Hafan Dawel.
(1, 0) 450 Fe ddaw y bad, heb fod yn hir─a fe fydd y Pen-Capten wrth y llyw─ar ryw noson, yn sŵn y storm, i'm mofyn i adre, ond 'rwy'n falch Ei fod wedi'm gadael yma hyd heno, i mi gael gweld dewrder Bess a Mari; a phan gwrdda i â'u tad a'u mam ar y lan draw, dyna stori fydd gen i i ddweyd wrthynt am eu plant.
(1, 0) 451 Bendigedig!